Datganiad hygyrchedd

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Democratiaeth Cymru.

Cynhelir y wefan hon gan Gyngor Caerdydd. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon.  Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau porwr neu ddyfais,
  • chwyddo hyd at 400% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
  • llywio’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod lleferydd, a
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud y testun ar y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Cysylltwch â ni os ydych:

  • yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon,
  • yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, neu
  • os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol

E-bost: gwasanaethauetholiadol@caerdydd.gov.uk

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon ar sut rydym yn ymateb i’ch cwyn,  cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n llawn â’r Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2 Safon AA.

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â Safon AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2, oherwydd y diffyg cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Problem hygyrcheddMeini prawf WCAGNifer o broblemau
Caniatewch i ddefnyddwyr neidio i’r cynnwys yn gyflymWCAG 2.0 A 2.4.12
Nodwch destun amgen ar gyfer delweddau priodolWCAG 2.0 A 1.1.12
Gwnewch yn siŵr nad yw’r cynnwys yn rhy anodd ei ddeallWCAG 2.0 AAA 3.1.51
Gwnewch yn siŵr bod gan destun gyferbynnedd digonol (AA) WCAG 2.0 AA 1.4.32
Osgowch gysylltu ag angorau nad ydynt yn bodoliWCAG 2.0 A 2.4.12
Ychwanegu cwmpas at benawdau tablauWCAG 2.0 A 1.3.14
Anelwch at osod cyferbyniad uchel iawn ar y testun (AAA)WCAG 2.0 AAA 1.4.65

Beth rydyn ni’n ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym yn rhoi cymorth a hyfforddiant i’r rhai sy’n gweinyddu’r wefan, er mwyn sicrhau bod safonau’n cael eu cadw wrth ddiweddaru’r wefan. Byddwn yn adolygu’r wefan o bryd i’w gilydd.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 27/01/2026.
Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 27/01/2026.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 24/01/2026 gan Silktide gyda gwiriadau llaw ychwanegol a gyflawnir gan ein tîm gwefan. Diweddarwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 27/01/2026.