Llunio ein cenedl
Dyma Democratiaeth Cymru, porthol i’ch helpu i ddarganfod mwy am faterion lleol a chenedlaethol
a chymryd rhan.
Ewch i gyfarfodydd, codwch eich pryderon a dylanwadwch ar sut mae penderfyniadau’n cael eu
gwneud yn eich cymuned a ledled Cymru.
Democratiaeth yn eich ardal chi
Dewiswch ardal o Gymru ar y map i ddysgu am ddemocratiaeth leol yn y rhanbarth hwnnw. Neu
gallwch ddewis un o 22 Awdurdod Lleol Cymru o’r rhestr.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Enillodd Cyngor Blaenau Gwent statws bwrdeistref sirol ym 1996, a chymerodd y Cyngor dros y swyddogaethau a gyflawnwyd yn flaenorol gan y cyngor sir. Mae’r Cyngor yn cynnwys 33 o gynghorwyr sy’n cynrychioli 14 ward etholiadol. Ers etholiadau 2022 mae’r Cyngor wedi bod dan reolaeth fwyafrifol y blaid Lafur.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau GwentCyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont
Daeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i fodolaeth ym mis Ebrill 1996, gan ddisodli’r cyn Gyngor Bwrdeistref Ogwr yn bennaf. Ar hyn o bryd mwyafrif y Blaid Lafur sy’n llywodraethu, yn dilyn Etholiadau 2022. Mae’r Cyngor yn cynnwys 51 o Aelodau, sy’n cynrychioli 28 o wardiau etholaethol. Mae’r Blaid Lafur wedi cynnal mwyafrif o ran seddau ar y Cyngor ers 2008.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bontCyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Sefydlwyd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ym 1996 ac mae wedi’i leoli yn Nhŷ Penalltau yn ardal Tredomen Ystrad Mynach. Mae’r fwrdeistref sirol wedi’i rhannu’n 30 ward etholiadol ac mae 69 o gynghorwyr. Mae Llafur wedi dal mwyafrif y seddi ar y Cyngor ers 2012.
Cyngor Bwrdeistref Sirol CaerffiliCyngor Cardiff
Sefydlwyd Cyngor Caerdydd, Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd yn ffurfiol, ym 1996 gan ddisodli Cyngor Dinas Caerdydd yn Ne Morgannwg. Mae Cyngor Caerdydd yn cynnwys 79 o gynghorwyr, sy’n cynrychioli 28 ward etholiadol. Mae Llafur wedi dal mwyafrif y seddi ar y Cyngor ers 2012.
Cyngor CardiffCyngor Sir Gâr
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn un o ddau ar hugain o awdurdodau unedol a ddaeth i fodolaeth ar 1 Ebrill 1996. Mae’r sir wedi’i rhannu’n 51 ward etholiadol a 75 o gynghorwyr o ystod o grwpiau gwleidyddol.
Cyngor Sir GârCyngor Sir Ceredigion
Sefydlwyd Cyngor Sir Ceredigion yn 1996. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cynnwys 38 o gynghorwyr, sy’n cynrychioli 34 ward etholiadol. Mae Grŵp Plaid Cymru wedi dal mwyafrif ers yr Etholiadau Lleol a gynhaliwyd yn 2022.
Cyngor Sir CeredigionCyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cafodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ei sefydlu yn 1996 gan ddisodli cyn Gynghorau Bwrdeistref Aberconwy a Cholwyn. Mae mewn lleoliad canolog yng Ngogledd Cymru ac mae’r Cyngor yn cynnwys 55 o gynghorwyr sy’n cynrychioli 30 o wardiau.
Cyngor Bwrdeistref Sirol ConwyCyngor Sir Ddinbych
Sefydlwyd sir a phrif ardal Sir Ddinbych ar 1 Ebrill 1996 ac mae wedi’i lleoli yn Neuadd y Sir yn Rhuthun. Mae’r fwrdeistref sirol wedi’i rhannu’n 29 ward etholiadol ac mae 48 o gynghorwyr. Ers mis Mai 2022 mae’r Cyngor wedi cael ei arwain gan Jason McLellan, o’r blaid Lafur.
Cyngor Sir DdinbychCyngor Sir y Fflint
Yn 1996 cafodd dau ddosbarth Alun a Glannau Dyfrdwy, a Delyn eu huno i greu sir newydd, sef Sir y Fflint. Mae’r sir wedi’i rhannu’n 45 ward, gyda 67 o gynghorwyr. Nid oes yr un plaid wedi rheoli’r Cyngor gyda’r mwyafrif ers 2012. Yn dilyn etholiad 2022 ffurfiodd y Blaid Lafur weinyddiaeth leiafrifol gyda chefnogaeth anffurfiol gan y Democratiaid Rhyddfrydol.
Cyngor Sir y FflintCyngor Gwynedd
Cafodd Cyngor Gwynedd ei sefydlu ym 1996 ac ers 2022 mae’r fwrdeistref sirol wedi’i rhannu’n 65 ward, gyda 69 o gynghorwyr. Mae’r Cyngor yn cael ei arwain gan Blaid Cymru sydd â rheolaeth fwyafrifol. Mae Prif Swyddfeydd y Cyngor yng Nghaernarfon. Ers 2022 mae’n cael ei adnabod fel Cyngor Gwynedd.
Cyngor GwyneddCyngor Sir Ynys Môn
Ffurfiwyd Cyngor Sir Ynys Môn ym 1996. Ers 2022 mae gan y Cyngor 35 o gynghorwyr sy’n cynrychioli 11 ward etholiadol aml-aelod. Ar hyn o bryd Plaid Cymru sy’n dal y mwyafrif cyffredinol, gyda 21 o 35 sedd.
Cyngor Sir Ynys MônCyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Ffurfiwyd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ym 1996 yn dilyn diddymu Cyngor Sir Morgannwg Ganol. Mae’r fwrdeistref sirol wedi’i rhannu’n 11 ward etholiadol ac mae 30 o gynghorwyr. Nid yw’r Cyngor wedi bod o dan reolaeth fwyafrifol ers etholiad 2022, ac mae gan y Blaid Lafur a’r grŵp annibynnol 15 cynghorydd yr un. Ar hyn o bryd mae’r grŵp annibynnol yn ffurfio gweinyddiaeth y Cyngor.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr TudfulCyngor Sir Fynwy
Ffurfiwyd Cyngor Sir Fynwy ym 1996 ac mae’n cwmpasu tair rhan o bump dwyrain sir hanesyddol Sir Fynwy. Mae’r cyngor sir wedi’i leoli yn Neuadd y Sir ym mhentre’r Rhadyr, ger Brynbuga. Ers etholiadau 2022 nid yw’r Cyngor wedi bod o dan reolaeth fwyafrifol,. Y Blaid Lafur yw’r blaid fwyaf. Arweinydd y Cyngor ers etholiadau 2022 yw Mary Ann Brocklesby o’r Blaid Lafur.
Cyngor Sir FynwyCyngor Castell-nedd Port Talbot
Sefydlwyd Cyngor Castell-nedd Port Talbot ym 1996. Ers 2022, mae’r Cyngor yn cynnwys 60 o gynghorwyr sy’n cynrychioli 34 ward. Ers etholiad 2022, nid yw’r Cyngor wedi bod o dan reolaeth fwyafrifol ac mae clymblaid rhwng Plaid Cymru a grwpiau Annibynnol yn arwain y Cyngor.
Cyngor Castell-nedd Port TalbotCyngor Dinas Casnewydd
Sefydlwyd Cyngor Dinas Casnewydd ym 1996, gan ddisodli Cyngor Bwrdeistref Casnewydd o fewn Cyngor Sir Gwent. Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cynnwys 51 o gynghorwyr, sy’n cynrychioli 21 o wardiau etholiadol. Mae Llafur wedi dal mwyafrif y seddi ar y cyngor ers 2012.
Cyngor Dinas CasnewyddCyngor Sir Penfro
Ffurfiwyd Cyngor Sir Penfro ym 1996. Ers 2022 mae’r Cyngor yn cynnwys 60 o gynghorwyr, sy’n cynrychioli 59 ward. Mae ward Penfro: Cil-maen a De St Mary yn ethol dau gynghorydd, ac mae’r wardiau sy’n weddill yn ethol un cynghorydd. Mae arweinydd y Cyngor, David Simpson, yn un o’r cynghorwyr annibynnol nad yw’n gysylltiedig â phlaid benodol.
Cyngor Sir PenfroCyngor Sir Powys
Sefydlwyd Cyngor Sir Powys ym 1996; yn wreiddiol roedd Powys yn cynnwys tair sir sef Sir Frycheiniog, Sir Drefaldwyn a Sir Faesyfed. Awdurdod gwledig yw Powys, hi yw’r sir fwyaf o ran maint ond mwyaf prin ei phoblogaeth, ac mae’n cwmpasu chwarter o arwynebedd Cymru gyfan; mae ganddi boblogaeth o 133,200 o bobl. Lleolir pencadlys y cyngor yn Neuadd y Sir, Llandrindod, yng nghanol y sir. Mae gan Gyngor Sir Powys 68 o Gynghorwyr, sy’n cynrychioli 60 ward. Ffurfiwyd clymblaid rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a Llafur yn dilyn etholiad 2022.
Cyngor Sir PowysCyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf County
Croeso i Rondda Cynon Taf, y trydydd awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru.Cafodd y fwrdeistref sirol ei ffurfio ym 1996 yn dilyn diddymu sir Morgannwg Ganol. Daeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i fodolaeth drwy uno cyn ardaloedd Morgannwg Ganol, sef y Rhondda, Cwm Cynon a Thaf Elái (heblaw’r Creigiau a Phentyrch).Mae cyfanswm o 75 o gynghorwyr yn cael eu hethol i gynrychioli pobl Rhondda Cynon Taf. Y blaid Lafur sy’n llywodraethu’r Cyngor, a’r Cynghorydd Andrew Morgan yw’r Arweinydd.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf CountyCyngor Abertawe
Cyngor Dinas a Sir Abertawe, neu yn syml, Cyngor Abertawe yw’r Awdurdod lleol ar gyfer un o brif ardaloedd Cymru. Mae’r brif ardal hefyd yn cynnwys ardaloedd gwledig i’r gogledd o ardal adeiledig Abertawe a Phenrhyn Gŵyr i’r gorllewin. Mae’r Cyngor yn cynnwys 75 o gynghorwyr sy’n cynrychioli 32 ward etholiadol. Mae’r Cyngor wedi cael ei reoli gan y Blaid Lafur ers 2012.
Cyngor AbertaweCyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Ffurfiwyd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn 1996 ar ôl ad-drefnu llywodraeth leol. Mae’r fwrdeistref sirol wedi ei rhannu’n 20 o wardiau, gyda 40 o gynghorwyr. Mae Llafur wedi bod â mwyafrif y seddi ar y cyngor ers 2012, ar ôl cyfnod o fod neb â mwyafrif dros bawb o 2008 ymlaen. Ar ôl isetholiad yn Chwefror 2023 a newid ochr yn Ebrill 2023, mae gan y cyngor ar hyn o bryd 29 cynghorydd Llafur ac 11 Annibynnol. O blith y cynghorwyr annibynnol, mae pump yn eistedd gyda’i gilydd fel y ‘Grŵp Annibynnol’, mae tri yn y ‘Grŵp Annibynnol Torfaen’ a dyw’r tri arall ddim yn rhan o grŵp.
Cyngor Bwrdeistref Sirol TorfaenCyngor Bro Morgannwg
Ffurfiwyd Cyngor Bro Morgannwg ar 1 Ebrill 1996, yn dilyn diddymu De Morgannwg a chan ddisodli Cyngor Bwrdeistref Bro Morgannwg. Mae’r Cyngor yn cynnwys 54 o gynghorwyr sy’n cynrychioli 24 ward ac nid yw wedi bod o dan reolaeth fwyafrifol ers 2012. Ers etholiad 2022 mae’r Cyngor wedi cael ei redeg gan glymblaid o’r Blaid Lafur, Annibynwyr Cyntaf Llanilltud Fawr, ac un o’r cynghorwyr annibynnol.
Cyngor Bro MorgannwgCyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Crëwyd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ym 1996 o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994. Mae’r fwrdeistref sirol wedi’i rhannu’n 49 ward etholiadol ac mae 56 o gynghorwyr. Ers etholiad 2022, mae’r Cyngor wedi cael ei arwain gan glymblaid o’r ‘Grŵp Annibynnol’, sy’n cynnwys 21 o gynghorwyr annibynnol, a’r Ceidwadwyr.
Cyngor Bwrdeistref Sirol WrecsamGymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru. Prif ddibenion WLGA yw hyrwyddo safonau ac enw da maes llywodraeth leol a helpu’r awdurdodau i ddatblygu polisïau a blaenoriaethau a fydd yn gwella gwasanaethau i’r cyhoedd a democratiaeth.
Byddwch yn gynghorydd. Sicrhewch mai chi yw’r newid
Mae Cynghorwyr yn cael eu hethol i gynrychioli eu cymunedau i wneud penderfyniadau pwysig am faterion lleol a gwasanaethau cyhoeddus lleol. Mae’n bwysig bod cynghorwyr fel y bobl sy’n eu hethol – rydym angen mwy o amrywiaeth o gynghorwyr – rydym angen mwy o fenywod, mwy o bobl ifanc, mwy o bobl Ddu Asiaidd a Lleiafrif Ethnig, mwy o bobl anabl a mwy o bobl LHDTC+ i sefyll.
Llywodraeth Cymru
Bydd y cyflwyniad hwn i lywodraeth leol yn eich helpu i ddeall sut y mae penderfyniadau lleol sy’n effeithio ar fywydau pobl yng Nghymru yn cael eu gwneud a phwy sy’n eu gwneud. Bydd yn egluro pwysigrwydd cynnwys pobl leol yn y broses hon o wneud penderfyniadau a sut y mae’r broses o wneud penderfyniadau yng Nghymru yn cyd-fynd â system gyfreithiol a gwleidyddol ehangach y Deyrnas Unedig.
Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol
Mae Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn gyfrifol am bennu’r lwfansau sy’n daladwy i aelodau etholedig prif gynghorau, awdurdodau parciau cenedlaethol, awdurdodau tân ac achub, a chynghorau tref a chymuned yng Nghymru.